Mae Addysg y Cyfryngau Cymru yn cefnogi addysg y cyfryngau a delweddau symudol yng Nghymru trwy hyfforddi, digwyddiadau, cyhoeddiadau, projectau, ymchwil ac ymgynghori.
Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) yw prif gorff ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar bob agwedd ar gwricwlwm yr ysgol, arholiadau, asesu a chymwysterau galwedigaethol.
Consortiwm o awdurdodau addysg lleol sefydlwyd ym 1948, yw Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Mae Siop lyfrau, MEU Cymru, Uned yr Iaith Cymru a gwybodaeth am Arholiadau sy'dd ar eu Gwefan.
Cyngor sydd yn gyfrifol am gyllido colegau a sefydliadau addysg uwch a phrifysgolion yng Nghymru. Mae ganddo'r pwer hefyd i gyllido addysg uwch mewn colegau addysg bellach. Corff Cyhoeddus Noddedig y Cynulliad yw y Cyngor.
Sefydlwyd Cynnal gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i ddarparu gwasanaethau cefnogol i ysgolion y ddwy sir, yn cynnwys cefnogi cwricwlwm a cefnogi technoleg gwybodaeth.
Corff statudol, hunanreoleiddiol a phroffesiynol ar gyfer athrawon yng Nghymru, sy'n ceisio codi statws addysgu trwy gynnal a hyrwyddor safonau uchaf o arferion proffesiynol ac ymddygiad er lles athrawon, disgyblion ar cyhoedd.
Mudiad gwirfoddol yw Mudiad Ysgolion Meithrin. Ei nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymdeithas sydd yn cynrychioli rhieni trwy Gymru i gyd ydy RhAG, a'i nod yw hybu addysg Gymraeg a sicrhau'r adnoddau gorau ar gyfer y garfan gynyddol o blant cyfrwng Cymraeg.